Ffilm ddrama
![]() Poster y ffilm ddrama 12 Angry Men (1957), un o glasuron sinema'r Unol Daleithiau. | |
Enghraifft o: | genre mewn ffilm ![]() |
---|---|
Math | drama ffuglen, ffilm ![]() |
![]() |
Genre o ffilm yw ffilm ddrama a nodweddir gan stori ffuglennol (neu led-ffuglennol, yn achos drama ddogfen) ddifrif, gyda chymeriadaeth ddofn, sy'n ceisio dal sylw'r gwyliwr yn natblygiad y plot a thynged y cymeriadau gydag effaith ar ei deimladau. Defnyddir y gair "drama" yma mewn ystyr debyg i ddrama radio neu deledu: stori draethiadol realistig, sy'n ceisio adlonni'r gynulleidfa trwy emosiwn a diddordeb yn hytrach na chwerthin.[1] Mae ffilmiau drama fel arfer yn ymwneud â sefyllfaoedd pob dydd a phrofiadau dynol, gan flaenoriaethau meddyliau a pherthnasau'r cymeriadau: cymhelliant, gwrthdaro, a thwf personol. Mae themâu cyffredin y genre yn cynnwys cariad, y teulu, hunaniaeth, cyfyng-gyngorau moesol, colled a galar, goroesiad, unigrwydd ac ymddieithriad, grym a llygredigaeth, gwaredigaeth a maddeuant, ymddiriedaeth a brad, a dirfodaeth. Mae nifer o ffilmiau drama yn ymwneud â phynciau llosg a materion cymdeithasol, megis hiliaeth, trosedd a chosb, a rhywioldeb. Gall y digwyddiadau mewn ffilm ddrama fod yn gyffrous i raddau, ond nid ydynt mor anghyffredin â'r hyn a geir mewn ffilm gyffro neu llawn cyffro ("acsiwn").
Disgrifir ffilmiau drama fel arfer gyda thermau ychwanegol i nodi is-genre, pwnc, neu thema'r stori, er enghraifft drama hanesyddol, drama drosedd (gan gynnwys drama heddlu a drama lys), drama ramantus, drama seicolegol, drama deuluol neu ddrama gegin, drama'r arddegau, neu ddrama wleidyddol. Fel rheol bwriedir y ffilm ddrama i fod yn stori ddifrif, o bosib trasig, ac yn wahanol felly i ffilm gomedi. Fodd bynnag, mae is-genre'r ddrama gomedi yn pontio'r gwahaniaeth hwn, ac yn cynnwys elfennau digrif yn ogystal â stori ddramatig.
Y ffilm ddrama Gymraeg
[golygu | golygu cod]Un o'r ffilmiau drama cyntaf yn yr iaith Gymraeg yw Noson Lawen (1949), sy'n serennu Meredydd Evans ac Ieuan Rhys Williams. Wedi sefydlu'r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, cynhyrchwyd sawl ffilm ddrama Gymraeg yn y 1970au a'r 1980au, gan gynnwys Teisennau Mair (1979) a Newid Gêr (1980).
Mae ffilmiau drama sy'n seiliedig ar nofelau Cymraeg yn cynnwys Un Nos Ola Leuad (1991), addasiad o'r nofel o 1961 gan Caradog Prichard. Ffilm rymus ydyw sy'n ymwneud ag afiechyd meddwl, rhywioldeb, ac emosiynau dwfn. Esiampl arall ydy Tân ar y Comin (1994), addasiad o'r nofel i blant o 1975 gan T. Llew Jones.
Un o'r ffilmiau Cymraeg enwocaf ydy'r ddrama ryfel fywgraffyddol Hedd Wyn (1992) gan Paul Turner. Cafodd ei henwebu am Oscar yn y categori ffilm iaith dramor orau yn 1994. Derbyniodd Hedd Wyn llawer o gymeradwyaeth nid yn unig yng Nghymru gan ei fod yn hybu'r Gymraeg, ond ar draws y byd am ei thechnegau ffilm a'i themâu dwfn. Yr unig ffilm Gymraeg arall i gael ei henwebu am Oscar yw Solomon & Gaenor (1999)[2], hanes Iddew ifanc (Ioan Gruffudd) yn ystod terfysgoedd gwrth-Semitaidd yng Nghymru ym 1911.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Modern British Drama on Screen (yn Saesneg). Cambridge University Press. 2013. ISBN 9781107652408.
- ↑ "Solomon And Gaenor (1999)". BBFC. Cyrchwyd 31 March 2021.
- ↑ Gemma Romain (2013). Connecting Histories (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 200. ISBN 9781136220630.