Neidio i'r cynnwys

Crys

Oddi ar Wicipedia
Crys
Mathtop Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu3000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dilledyn a wisgir am ran uchaf y corff a dwy lawes iddo yw crys. Fel arfer mae'r gair "crys" heb ansoddair yn dynodi dilledyn â choler ac agoriad yn y frest a gaeir â botymau: er enghriafft, crys-T yw crys heb y nodweddion hyn. Gellir cyfuno crys gyda choler â thei.

Ar un adeg, roedd crysau'n cael eu gwneud heb goleri yn aml, ac roedd y coleri yn eitemau ar wahân (sef coleri rhyddion – coleri caled wedi'u startsio fel arfer) a oedd ynghlwm wrth y dilledyn gan stydiau. Dim ond y crysau mwyaf ffurfiol sydd bellach yn dilyn y patrwm hwn. Gwneir crysau ffurfiol heb fotymau hefyd: mae'r agoriad yn y frest wedi'i gau gyda stydiau ac mae'r cyffiau wedi'u cau gan ddolennau llawes.

Mathau

[golygu | golygu cod]
  • chrys chwys – crys llewys hir heb goler na botymau
  • crys ffurfiol – crys gyda choler, agoriad yn y blaen yn ymestyn o'r coler i'r godre, llewys gyda chyffiau, weithiau â blaen plygedig
  • crys nos – crys hir sy'n ymestyn o dan y pengliniau, wedi'i fwriadu i'w wisgo wrth gysgu
  • crys polo – crys llewys byr gyda choler meddal ag agoriad byr â botymau wrth y gwddf
  • crys rygbi – crys llewys hir gyda choler meddal ag agoriad byr â botymau wrth y gwddf
  • crys-T – crys llewys byr heb goler na botymau

Lliwiau

[golygu | golygu cod]

Gan mai lliain neu gotwm wedi'i gannu oedd y deunyddiau traddodiadol y gwnaed crysau ohonynt, gwyn yw lliw "arferol" crys. Felly mae crys lliw wedi bod yn ffordd syml o ddangos cysylltiad gwleidyddol neu filwrol neu ddangos aelodaeth o dîm chwaraeon, a defnyddir enw'r dilledyn fel trawsenw ar gyfer y bobl sy'n ei wisgo a'r sefydliad neu'r tîm maen nhw'n perthyn iddo.

  • Roedd dilynwyr Giuseppe Garibaldi a ymladdodd fel gwirfoddolwyr dros annibyniaeth yr Eidal yn ystod y Risorgimento yng nghanol y 19g yn gwisgo crysau cochion, ac roedden nhw'n cael eu hadnabod fel Camicie rosse ("crysau cochion").
  • Roedd dilynwyr Benito Mussolini a ffurffiodd adain barafilwrol y Blaid Ffasgaidd Genedlaethol (Eidaleg: Partito Nazionale Fascista) yn y 1920au yn gwisgo crysau duon, ac fe'u gelwid yn Camicie Nere ("crysau duon"). Roedd mudiadau ffasgaidd mewn sawl gwlad arall, yn enwedig Undeb Ffasgwyr Prydain (Saesneg: British Union of Fascists) yn y Deyrnas Unedig, hefyd yn gwisgo crysau duon ac yn mynd wrth yr un enw. Mabwysiadwyd lliwiau eraill gan fudiadau cyfatebol mewn gwledydd eraill (er enghraifft, glas yn Ffrainc, gwyrdd yn Hwngari, llwyd yn Norwy, aur ym Mecsico, arian yn UDA). Yn ddrwg-enwog, roedd Sturmabteilung Natsïaidd yr Almaen yn gwisgo crysau brown (Almaeneg: Braunhemden).