Al Anbar
![]() | |
Math | Taleithiau Irac ![]() |
---|---|
Prifddinas | Ramadi ![]() |
Poblogaeth | 1,561,400 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Kingdom of Iraq, First Republic of Iraq ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 135,000 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Mafraq Governorate, Nineveh Governorate, Diyala Governorate, Baghdad Governorate, Northern Borders Province, Karbala Governorate ![]() |
Cyfesurynnau | 32.9°N 41.6°E ![]() |
IQ-AN ![]() | |
![]() | |
Talaith Al Anbar (Arabeg محافظة الأنبار) yw'r fwyaf yn Irac. Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad, rhwng dyffryn ffrwythlon Afon Euphrates yn y dwyrain a'r ffin â Sawdi Arabia, Gwlad Iorddonen a Syria yn y gorllewin. Ei phrifddinas yw Ar Ramadi.

Mae rhan fawr o'r dalaith yn ddiffeithdir sy'n gorwedd yn rhan dwyreiniol Diffeithwch Syria, neu'n dir amethyddol ymylol. Mae mwyafrif helaeth y trigolion yn Fwslemiaid Sunni. Mae enw y dalaith yn air Perseg (انبار ’Anbār) ac yn golygu "emporiwm"; atgof o'r amser pan fu'r ardal yr entrepot pwysicaf ar ffiniau gorllewinol ymerodraeth y Sassaniaid. Cysylltir y diwinydd Sunni enwog, Abu Hanifa al-Anbari, sefydlyd Hanaffiaeth, ysgol athronyddol fwyaf y Sunniaid, â'r rhanbarth.
Cyn 1976 Ramadi oedd enw'r dalaith a chyn 1962 Dulaim oedd ei henw. Mae tua 1,300,000 o bobl yn byw yn y dalaith heddiw.[1]
Mae dinas Fallujah yn Anbar a dyma ganolfan y gwrthwynebiad Ba'athaidd a Sunni i'r goresgyniad o Irac gan yr Unol Daleithiau.
Dinasoedd a threfi
[golygu | golygu cod]- Ar Ramadi
- Sadah
- Haditha
- Hit
- A'na
- Rwawa
- Fallujah
- Abu Ghraib
- Al-Qaim
- Al-Nukhaib
- Ar Rutba
- Kubaisa
- Al Asad
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Data'r UN 2003; adalwyd 9 Mai 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-12-15. Cyrchwyd 2012-05-09.
Taleithiau Irac | ![]() |
---|---|
Al-Anbar | Arbīl | Bābil | Baghdād | Al-Basrah | Dahūk | Dhī Qār | Diyālā | Al-Karbalā' | Kirkuk (At-Ta'mim) | Maysān | Al-Muthannā | An-Najaf | Nīnawā | Al-Qādisiyyah | Salāh ad-Dīn | As-Sulaymāniyyah | Wāsit |